Bod yn reithiwr

Skip to search
Skip to Navigation
Accessibility Statement

Gohirio neu esgusodi

Printio'r cwestiwn

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng cael gohirio fy ngwasanaeth rheithgor a chael fy esgusodi?

Mae gohirio eich gwasanaeth rheithgor yn golygu nad oes raid i chi wasanaethu ar unwaith. Efallai fod gennych broblem sy'n ei gwneud yn anodd i chi fynychu ar y dyddiad a roddwyd ichi, ond y byddai modd i chi fynychu ar ddyddiad o fewn y 12 mis nesaf. Yn yr achos hwn, cewch ofyn i'r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor ohirio eich gwasanaeth.Os cewch eich gohirio fe fyddwch yn cael dyddiad newydd sy'n gyfleus i chi yn ystod y 12 mis nesaf. Dim ond unwaith y gellir gohirio gwasanaeth rheithgor.

Mae esgusodi yn golygu eich bod yn cael eich esgusodi rhag gwasanaeth rheithgor y tro hwn. Os oes gennych broblem sy'n ei gwneud yn anodd i chi fynychu gwasanaeth rheithgor ar unrhyw adeg yn y 12 mis nesaf, cewch ofyn i'r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor i'ch esgusodi rhag gwasanaeth rheithgor y tro hwn. Ni chewch eich esgusodi ond os bydd y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor yn fodlon nad yw'n rhesymol disgwyl i chi wneud gwasanaeth rheithgor yn ystod y flwyddyn nesaf.

Cofiwch, mae cael eich gwysio ar gyfer gwasanaeth rheithgor yn digwydd ar hap yn llwyr. Os cewch eich esgusodi y tro hwn, gallwch gael eich galw eto o'r gofrestr etholwyr, a bydd yn rhaid i chi fynd drwy'r un broses o dderbyn, gohirio neu ofyn am gael eich esgusodi.

Ni fydd ceisiadau am esgusodi'n cael eu hystyried ond mewn amgylchiadau eithriadol. Yn y rhan fwyaf o achosion, cynigir gohiriad.

Cofiwch, os gwelwch yn dda, y bydd y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod eich gwasnaeth rheithgor yn dechrau ar ddyddiad cyfleus, ond ni ellir gwarantu hyn bob amser.

Am ba resymau gaf i wneud cais i gael gohirio fy ngwasanaeth?

Cewch ofyn am gael gohirio eich gwasanaeth rheithgor:

  • os oes gennych apwyntiad neu lawdriniaeth yn yr ysbyty yr ydych wedi bod yn disgwyl amdano, neu os ydych yn gwella yn dilyn llawdriniaeth
  • os oes digwyddiad teuluol pwysig wedi'i drefnu a'i dalu amdano, megis priodas neu wyliau
  • os oes gennych ymrwymiadau brys yn y gwaith a fyddai'n niweidiol i'r busnes oni chyflawnir hwy ar amser.
Gallai'r rhain eich atal rhag gwasanaethu ar yr adeg y gwysir chi, ond ni fyddant yn eich atal rhag gwasanaethu o fewn y flwyddyn nesaf.

Os rhoddwch reswm dros ohirio'ch gwasanaeth, gofynnir i chi roi pob dyddiad arall yn y flwyddyn nesaf pryd y bydd modd i chi wasanaethu, fel y gall y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor drefnu dyddiad sy'n fwy cyfleus.

Am ba resymau allaf i gael fy esgusodi?

Mae rheithiwr yn darllen llw.

Gallwch gael eich esgusodi os ydych wedi bod ar wasanaeth rheithgor yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Hefyd gallwch gael eich esgusodi os ydych chi wedi bod yn rheithiwr a bod y llys wedi eich esgusodi am gyfnod na ddaeth i ben eto. Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o hyn i'r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor.

Gallwch gael eich esgusodi os ydych chi'n aelod llawn-amser o luoedd morol, milwrol neu awyrlu Ei Mawrhydi, ac os bydd eich prif swyddog yn cadarnhau y byddai eich absenoldeb yn niweidiol i effeithlonrwydd y gwasanaeth.

Gallwch gael eich esgusodi am resymau meddygol. Ni ddylech gael tystysgrif feddygol ond os gofynnir i chi ddarparu un gan y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor.

Efallai fod gennych resymau personol paham yr hoffech gael eich esgusodi. Os felly bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth yn ysgrifenedig, i'r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor gan ddatgan paham na allwch fynychu o fewn y flwyddyn nesaf.

Rwy'n brysur iawn yn y gwaith - alla' i ohirio neu gael fy esgusodi?

Gall ymrwymiadau gwaith fod yn anodd eu torri, ond nid ydynt yn rheswm dilys dros gael eich esgusodi o wasanaeth rheithgor. Gallwch ofyn am ohirio eich gwasanaeth rheithgor i ddyddiad diweddarach pan y byddwch yn llai prysur, efallai. Rhaid i'r cais ddod oddi wrthych chi ac nid oddi wrth eich cyflogwr. Cewch gynnwys llythyr o gefnogaeth gan eich cyflogwr pan ddychwelwch eich gwŷs. Rhaid i'ch cyflogwr beidio ag anfon llythyr ar wahân. Bydd unrhyw ohebiaeth ar wahân gan drydydd parti yn cael ei ystyried fel rhywbeth sy'n ymyrryd â'ch gwŷs rheithgor, ac fe'i dychwelir.

Sut ydw i'n gwneud cais i gael fy esgusodi neu am ohirio fy ngwasanaeth rheithgor?

Llenwch y ffurflen Ymateb i'r Wŷs Rheithgor a llenwch y blwch priodol un ai i wneud cais am ohirio eich gwŷs neu i ofyn am gael eich esgusodi.

Pan fyddwch yn gwneud cais am ohirio bydd y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor yn gofyn i chi am fanylion ynghylch pa bryd yn y flwyddyn nesaf na fydd modd i chi fod yn bresennol. Byddant wedyn yn anfon llythyr atoch i gadarnhau eich gohiriad, gan roi dyddiad newydd i chi ar gyfer eich gwasanaeth rheithgor. Ni chaniateir i chi ohirio ddwywaith; rhaid i chi fod yn bresennol ar yr ail ddyddiad.

Os bydd y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor yn eich esgusodi chi rhag gwasanaeth, byddwch yn derbyn llythyr i gadarnhau eich bod wedi cael eich esgusodi. Bydd hyn yn berthnasol i'r wŷs hon yn unig. Efallai y cewch eich dewis eto ar hap a bydd yn rhaid i chi fynd drwy'r un broses o dderbyn, gohirio neu ofyn am gael eich esgusodi.

Os bydd y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor yn penderfynu nad yw eich rhesymau dros gael eich esgusodi'n rhai priodol, byddwch yn derbyn llythyr i'ch hysbysu o hyn, a bydd disgwyl i chi fod yn bresennol yn y llys ar y dyddiad a roddwyd yn wreiddiol. Os byddwch yn dymuno apelio, gallwch wneud hynny'n ysgrifenedig i Bennaeth y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor.

Beth os byddaf yn gohirio ac yna'n methu mynd ar yr ail ddyddiad?

Os bydd rhywbeth yn digwydd sydd y tu hwnt i'ch rheolaeth chi, ac sy'n gwrthdaro â'ch ail wŷs, cysylltwch â'r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor ar unwaith, os gwelwch yn dda.

© Hawlfraint|Polisi preifatrwydd|Lansio'r canllaw rhyngweithiol

Criminal Justice System