Rhagymadrodd
Os ydych chi'n fy ngwylio i nawr, mae'n debyg eich bod wedi cael eich dewis ar hap o'r gofrestr etholiadol i wasanaethu ar reithgor... ac mae'n debyg bod gennych ambell i gwestiwn - er enghraifft, pam gawsoch eich gwysio; sut bydd hyn yn effeithio ar eich gwaith; a gewch chi eich talu; a allwch chi wasanaethau ryw dro arall; sut mae trefnu gofal plant, ac yn y blaen.
Gallwch ddod o hyd i'r atebion i'r cwestiynau hynny yma.
Ond mae mwy i'r canllaw hwn nag a welir ar yr olwg gyntaf ... bydd fideos byr ym mhob adran yn rhoi syniad da i chi o'r hyn y gallwch ei ddisgwyl. Wedyn, os ewch chi i'r adran 'Gair am y treial' gallwch weld pigion fideo o'r holl brofiad - cael eich galw ar reithgor; mynd i mewn i'r llys a thyngu llw; pwy yw pwy yn y llys, a rheithgor yn cytuno ar reithfarn.
Mae eich gwŷs yn nodi ei bod yn ofyniad cyfreithiol arnoch i fod yn rheithiwr, ond does dim angen poeni. Gall gwasanaeth rheithgor fod yn ddifyr ac yn werth chweil.
I ddarganfod fwy am gwasanaeth rheithgor, dewiswch un o'r adrannau yma.