Cyfleusterau yn y llys
Yn fan hyn cewch syniad o'r cyfleusterau a fydd ar gael ar eich cyfer yn y llys. Mae'r rhain yn amrywio, felly mae'n werth holi eich llys lleol os bydd angen rhywbeth penodol arnoch chi, yn enwedig os oes gennych chi anghenion arbennig. Bydd yr adran hon yn helpu os ydych chi eisiau gwybod am arlwyo, a oes unrhyw gyfleusterau gofal plant ar gael neu a gewch chi ddefnyddio eich ffôn symudol neu eich gliniadur. Cewch hefyd wybod pwy fydd eich prif gysylltiadau cyn ac yn ystod eich gwasanaeth rheithgor.