Bod yn reithiwr

Skip to search
Skip to Navigation
Datganiad Hygyrchedd

Mynegai o Gwestiynau Cyffredin

Printio'r cwestiwn

Beth sy'n digwydd wedi i mi ddychwelyd fy ngwŷs?

Os ydych chi wedi cadarnhau bod modd i chi wasanaethu ar yr amser y gwysiwyd chi, bydd y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor yn anfon atoch fanylion sut i ddod i'r llys a beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi cyrraedd. Os ydych chi wedi gofyn i'ch gwasanaeth gael ei ohirio, neu os ydych wedi gofyn am gael eich esgusodi byddwch yn cael cadarnhad a yw'ch rhesymau wedi cael eu derbyn ai peidio. Mae'r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor yn ceisio ateb mor brydlon â phosibl, ond caniatewch hyd at 10 diwrnod o amser wedi anfon eich llythyr.

Beth sy'n digwydd os na fyddaf yn ateb y wŷs?

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu dirwy a bennir gan farnwr:

  1. os na fyddwch yn ymateb i'r wŷs
  2. os na fyddwch yn bresennol ar gyfer gwasanaeth rheithgor heb reswm da
  3. os nad ydych ar gael i fod yn reithiwr pan elwir eich enw
  4. os nad ydych yn addas i fod yn rheithiwr oherwydd eich defnydd o alcohol neu gyffuriau.

Beth sy'n digwydd os aeth fy ngwŷs i gyfeiriad gwahanol?

Os ydych chi wedi symud tŷ ac y bu oedi cyn derbyn eich gwŷs, peidiwch â phoeni; y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw ateb cyn pen saith diwrnod o'i dderbyn yn eich cyfeiriad newydd. Disgwylir i chi wasanaethu ar reithgor o hyd, ond efallai y symudir eich gwasanaeth i Lys y Goron yn nes at eich cyfeiriad newydd. Sicrhewch, os gwelwch yn dda, eich bod wedi rhoi eich cyfeiriad newydd ar y ffurflen Ymateb i'r Wŷs Rheithgor.

Beth arall ddylwn i fod wedi'i dderbyn?

Bydd ffurflen lwfansau wedi'i hanfon atoch gyda'ch gwŷs rheithgor a thaflen Arweiniad i'r Wŷs Rheithgor. Darllenwch hwn yn ofalus gan ei fod yn rhoi manylion am y lwfansau y gallech fod yn gymwys i'w hawlio o ganlyniad i wasanaethu fel rheithiwr. Y cyfyngiadau a nodir yw'r uchafsymiau sy'n daladwy yn ôl y gyfraith ac nid oes gan y llys rym i fynd y tu hwnt iddynt

Pwy all fy helpu i os bydd gennyf broblem o ganlyniad i gael fy ngwysio?

Os na allwch ddod o hyd i'r ateb i'ch cwestiwn yn y gwaith papur a anfonwyd atoch neu yn yr arweiniad hwn, cewch gysylltu â'r Swyddfa Ganolog gwysio Rheithgor hyd at un wythnos cyn bod eich gwasanaeth rheithgor i fod i ddechrau. Ar ôl yr amser hwnnw, rhaid i chi gysylltu â rheolwr y rheithgor yn Llys y Goron lle y gofynnwyd i chi fod yn bresennol. Nodir y rhif ar y daflen gwybodaeth leol a anfonwyd atoch gyda'r llythyr yn cadarnhau eich gwasanaeth.

Pam bod disgwyl i mi wasanaethu fel rheithiwr?

Mae dyn yn cyflwyno'i hun ar gyfer gwasaneth rheithgor yn dilyn derbyn gwys.

Mae hawl diffynnydd i gael treial gan reithgor am rai mathau o droseddau yn un hen iawn. Cydnabyddir mai'r ffordd decaf o ddewis rheithgor yw ar hap o'r gofrestr etholwyr. Dyma paham eich bod wedi cael eich dewis. Mae derbyn gwŷs yn golygu bod gofyniad cyfreithiol arnoch i fynd i'r llys ar y dyddiad a nodwyd, ar yr amod eich bod yn gymwys i wasanaethu fel rheithiwr, neu fod gennych reswm da dros gael eich esgusodi neu i'ch gwasanaeth gael ei ohirio.

Yr ydych chi a gweddill y rheithgor yn chwarae rôl bwysig iawn mewn treial. Daw rheithwyr o groestoriad o gymdeithas a gofynnir iddynt gymryd agwedd ddiduedd tuag at yr achos, fel y gellir cynnal treial teg. Fel arfer bydd 12 person ar reithgor, a'ch tasg yw ystyried y dystiolaeth a dod i benderfyniad a yw'r diffynnydd yn euog neu'n ddieuog.

A gaiff rhywun arall gymryd fy lle?

Na chaiff. Nid yw'r wŷs yn berthnasol i neb on y sawl a enwir, ac ni ellir ei throsglwyddo i unrhyw un arall.

A ydw i'n gymwys i wasanaethu fel rheithiwr?

Llwytho PDF oddi ar y we
Pwy sydd ddim yn gymwys i wasanaethu?

I wasanaethau fel rheithiwr, rhaid i chi:

  • fod o leiaf yn 18 oed, a than 70 oed, ar y diwrnod y byddwch yn cychwyn eich gwasanaeth rheithgor
  • bod wedi'ch cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau seneddol neu lywodraeth leol
  • bod wedi byw yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw am unrhyw gyfnod o 5 mlynedd o leiaf ers i chi fod yn 13 oed.

Pwy sydd ddim yn gymwys i wasanaethu fel rheithiwr?

Llwytho PDF oddi ar y we
Pwy sydd ddim yn gymwys i wasanaethu?

Nid ydych yn gymwys:

  • os byddwch dan 18 oed neu dros 70 oed ar y dyddiad pryd yr ydych i fod i gychwyn eich gwasanaeth rheithgor
  • os ydych ar hyn o bryd ar fechnïaeth mewn achos troseddol
  • os ydych wedi'ch dedfrydu fel y disgrifir yn y wybodaeth 'Pwy sy'n gymwys' (gweler y dogfennau ar y dde)
  • os oes gennych, neu y bu gennych yn y gorffennol salwch meddyliol, anhwylder seicotig, anfantais feddyliol neu anfantais feddyliol ddifrifol fel y disgrifir yn y wybodaeth 'Pwy sydd ddim yn gymwys' (gweler y dogfennau ar y dde)
  • os nad ydych wedi byw yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw am un cyfnod o 5 mlynedd o leiaf ers i chi fod yn 13 oed
  • Os nad ydych yn gymwys i bleidleisio mewn etholiadau seneddol neu etholiad awdurdod lleol.

Paham fy mod i wedi cael gwŷs os gallwn i fod yn anghymwys?

Gan fod rheithwyr yn cael eu gwysio ar hap o'r rhestr etholiadol, efallai bod rheswm paham nad ydych yn gymwys, na fyddai'r broses wysio'n dod ar ei draws.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng cael gohirio fy ngwasanaeth rheithgor a chael fy esgusodi?

Mae gohirio eich gwasanaeth rheithgor yn golygu nad oes raid i chi wasanaethu ar unwaith. Efallai fod gennych broblem sy'n ei gwneud yn anodd i chi fynychu ar y dyddiad a roddwyd ichi, ond y byddai modd i chi fynychu ar ddyddiad o fewn y 12 mis nesaf. Yn yr achos hwn, cewch ofyn i'r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor ohirio eich gwasanaeth.Os cewch eich gohirio fe fyddwch yn cael dyddiad newydd sy'n gyfleus i chi yn ystod y 12 mis nesaf. Dim ond unwaith y gellir gohirio gwasanaeth rheithgor.

Mae esgusodi yn golygu eich bod yn cael eich esgusodi rhag gwasanaeth rheithgor y tro hwn. Os oes gennych broblem sy'n ei gwneud yn anodd i chi fynychu gwasanaeth rheithgor ar unrhyw adeg yn y 12 mis nesaf, cewch ofyn i'r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor i'ch esgusodi rhag gwasanaeth rheithgor y tro hwn. Ni chewch eich esgusodi ond os bydd y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor yn fodlon nad yw'n rhesymol disgwyl i chi wneud gwasanaeth rheithgor yn ystod y flwyddyn nesaf.

Cofiwch, mae cael eich gwysio ar gyfer gwasanaeth rheithgor yn digwydd ar hap yn llwyr. Os cewch eich esgusodi y tro hwn, gallwch gael eich galw eto o'r gofrestr etholwyr, a bydd yn rhaid i chi fynd drwy'r un broses o dderbyn, gohirio neu ofyn am gael eich esgusodi.

Ni fydd ceisiadau am esgusodi'n cael eu hystyried ond mewn amgylchiadau eithriadol. Yn y rhan fwyaf o achosion, cynigir gohiriad.

Cofiwch, os gwelwch yn dda, y bydd y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod eich gwasnaeth rheithgor yn dechrau ar ddyddiad cyfleus, ond ni ellir gwarantu hyn bob amser.

Am ba resymau gaf i wneud cais i gael gohirio fy ngwasanaeth?

Cewch ofyn am gael gohirio eich gwasanaeth rheithgor:

  • os oes gennych apwyntiad neu lawdriniaeth yn yr ysbyty yr ydych wedi bod yn disgwyl amdano, neu os ydych yn gwella yn dilyn llawdriniaeth
  • os oes digwyddiad teuluol pwysig wedi'i drefnu a'i dalu amdano, megis priodas neu wyliau
  • os oes gennych ymrwymiadau brys yn y gwaith a fyddai'n niweidiol i'r busnes oni chyflawnir hwy ar amser.
Gallai'r rhain eich atal rhag gwasanaethu ar yr adeg y gwysir chi, ond ni fyddant yn eich atal rhag gwasanaethu o fewn y flwyddyn nesaf.

Os rhoddwch reswm dros ohirio'ch gwasanaeth, gofynnir i chi roi pob dyddiad arall yn y flwyddyn nesaf pryd y bydd modd i chi wasanaethu, fel y gall y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor drefnu dyddiad sy'n fwy cyfleus.

Am ba resymau allaf i gael fy esgusodi?

Mae rheithiwr yn darllen llw.

Gallwch gael eich esgusodi os ydych wedi bod ar wasanaeth rheithgor yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Hefyd gallwch gael eich esgusodi os ydych chi wedi bod yn rheithiwr a bod y llys wedi eich esgusodi am gyfnod na ddaeth i ben eto. Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o hyn i'r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor.

Gallwch gael eich esgusodi os ydych chi'n aelod llawn-amser o luoedd morol, milwrol neu awyrlu Ei Mawrhydi, ac os bydd eich prif swyddog yn cadarnhau y byddai eich absenoldeb yn niweidiol i effeithlonrwydd y gwasanaeth.

Gallwch gael eich esgusodi am resymau meddygol. Ni ddylech gael tystysgrif feddygol ond os gofynnir i chi ddarparu un gan y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor.

Efallai fod gennych resymau personol paham yr hoffech gael eich esgusodi. Os felly bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth yn ysgrifenedig, i'r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor gan ddatgan paham na allwch fynychu o fewn y flwyddyn nesaf.

Rwy'n brysur iawn yn y gwaith - alla' i ohirio neu gael fy esgusodi?

Gall ymrwymiadau gwaith fod yn anodd eu torri, ond nid ydynt yn rheswm dilys dros gael eich esgusodi o wasanaeth rheithgor. Gallwch ofyn am ohirio eich gwasanaeth rheithgor i ddyddiad diweddarach pan y byddwch yn llai prysur, efallai. Rhaid i'r cais ddod oddi wrthych chi ac nid oddi wrth eich cyflogwr. Cewch gynnwys llythyr o gefnogaeth gan eich cyflogwr pan ddychwelwch eich gwŷs. Rhaid i'ch cyflogwr beidio ag anfon llythyr ar wahân. Bydd unrhyw ohebiaeth ar wahân gan drydydd parti yn cael ei ystyried fel rhywbeth sy'n ymyrryd â'ch gwŷs rheithgor, ac fe'i dychwelir.

Sut ydw i'n gwneud cais i gael fy esgusodi neu am ohirio fy ngwasanaeth rheithgor?

Llenwch y ffurflen Ymateb i'r Wŷs Rheithgor a llenwch y blwch priodol un ai i wneud cais am ohirio eich gwŷs neu i ofyn am gael eich esgusodi.

Pan fyddwch yn gwneud cais am ohirio bydd y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor yn gofyn i chi am fanylion ynghylch pa bryd yn y flwyddyn nesaf na fydd modd i chi fod yn bresennol. Byddant wedyn yn anfon llythyr atoch i gadarnhau eich gohiriad, gan roi dyddiad newydd i chi ar gyfer eich gwasanaeth rheithgor. Ni chaniateir i chi ohirio ddwywaith; rhaid i chi fod yn bresennol ar yr ail ddyddiad.

Os bydd y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor yn eich esgusodi chi rhag gwasanaeth, byddwch yn derbyn llythyr i gadarnhau eich bod wedi cael eich esgusodi. Bydd hyn yn berthnasol i'r wŷs hon yn unig. Efallai y cewch eich dewis eto ar hap a bydd yn rhaid i chi fynd drwy'r un broses o dderbyn, gohirio neu ofyn am gael eich esgusodi.

Os bydd y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor yn penderfynu nad yw eich rhesymau dros gael eich esgusodi'n rhai priodol, byddwch yn derbyn llythyr i'ch hysbysu o hyn, a bydd disgwyl i chi fod yn bresennol yn y llys ar y dyddiad a roddwyd yn wreiddiol. Os byddwch yn dymuno apelio, gallwch wneud hynny'n ysgrifenedig i Bennaeth y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor.

Beth os byddaf yn gohirio ac yna'n methu mynd ar yr ail ddyddiad?

Os bydd rhywbeth yn digwydd sydd y tu hwnt i'ch rheolaeth chi, ac sy'n gwrthdaro â'ch ail wŷs, cysylltwch â'r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor ar unwaith, os gwelwch yn dda.

Allaf i hawlio am golli enillion neu fudd-daliadau?

Cewch hawlio lwfans ar gyfer:

  • colli enillion neu fudd-daliadau
  • ffioedd ar gyfer gofalwyr neu warchodwyr plant y mae'n rhaid i chi dalu amdanynt oherwydd gwasanaeth rheithgor
  • taliadau eraill a gyfyd yn uniongyrchol o ganlyniad i wasanaeth rheithgor.
Cewch hawlio mwy nag un o'r rhain, ond ni all cyfanswm yr hyn y gall y llys ei dalu fod yn uwch nag uchafswm y lwfans ar gyfer colled ariannol. Mae hwn yn newid o dro i dro, felly edrychwch ar y daflen lwfansau a anfonwyd atoch gyda'ch ffurflen gwŷs, neu llwythwch hi i lawr ar y dde.

Faint a gaf i ei hawlio am golli enillion?

Llwytho PDF oddi ar y we
Taflen lwfansau

Ni chewch hawlio ond hyd at y swm a enillwch fel arfer, ynghyd â gofal plant a threuliau eraill a gyfyd yn benodol o ganlyniad i'ch gwasanaeth rheithgor. Ni all cyfanswm y swm sy'n daladwy gan y llys fod yn fwy nag uchafswm y lwfans ar gyfer colled ariannol a nodir ar y daflen lwfansau. Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i brofi faint y byddech wedi'i ennill a beth a wariwyd gennych.

Rwy'n gyflogedig - sut ydw i'n hawlio am golli enillion?

Llwytho PDF oddi ar y we
Download loss of earnings form

Pan fyddwch yn cadarnhau eich gwasanaeth rheithgor, anfonir pecyn gwybodaeth atoch yn cynnwys Tystysgrif Colli Enillion Cyflogwr. Bydd angen i'r person sy'n talu i chi lenwi'r ffurflen hon a rhaid ei chyflwyno i'r rheolwr rheithgor ynghyd â'r daflen treuliau a roddir i chi ar ddiwrnod cyntaf eich gwasanaeth rheithgor.

Rhaid i'ch cyflogwr un ai:

  • stampio'r dystysgrif gyda'i stamp busnes swyddogol, neu
  • roi ynghlwm bapur cyfarch neu ddalen o bapur pennawd gwreiddiol gydag enw a chyfeiriad y busnes wedi'i argraffu arno, neu
  • ddarparu rhyw dystiolaeth arall o'r busnes y gall y llys ei gadw.
Sicrhewch eich bod yn dod â'r dystysgrif ac unrhyw lythyr gyda chi ar eich diwrnod cyntaf yn y llys.

Rwy'n hunan-gyflogedig - sut ydw i'n hawlio colli enillion?

Mae dyn sy'n eistedd yn disgwyl yn yr ardal aros.

Bydd yn rhaid i chi ddarparu peth tystiolaeth i'r llys eich bod wedi colli enillion, er enghraifft, llythyr gan eich cyfrifydd. Os nad oes gennych gyfrifydd, gallai ffurflen dreth y flwyddyn flaenorol fod yn dderbyniol. Os credwch y bydd yn rhaid i chi dalu i gael y dystiolaeth gan eich cyfrifydd, ceisiwch gyngor gan y rheolwr rheithgor yn gyntaf, os gwelwch yn dda.

Rwy'n derbyn budd-daliadau gan gynnwys Cymhorthdal Incwm - sut ydw i'n hawlio?

Llwytho PDF oddi ar y we
Download loss of earnings form

Pan fyddwch yn cadarnhau eich gwasanaeth rheithgor, anfonir pecyn gwybodaeth atoch yn cynnwys Tystysgrif Colli Enillion. Bydd angen i chi ei dangos i'r swyddfa budd-dal diweithdra neu'r swyddfa nawdd cymdeithasol sy'n talu'ch budd-dal, a byddant hwy'n dweud wrthych sut y mae gwasanaeth rheithgor yn effeithio ar eich hawliad. Os byddwch yn colli budd-dal oherwydd gwasanaeth rheithgor, byddant yn llenwi'r dystysgrif ac yn ei rhoi yn ôl i chi. Deuwch â'r dystysgrif gyda chi i'r llys ar eich diwrnod cyntaf gan y byddwch ei hangen i hawlio'n ôl y budd-dal yr ydych wedi'i golli.

Yr wyf ar Lwfans Ceisio Gwaith - beth gaf i ei hawlio?

Llwytho PDF oddi ar y we
Download loss of earnings form

Yr ydych yn gymwys i hawlio Lwfans Ceisio Gwaith am hyd at 8 wythnos o wasanaeth rheithgor (cofiwch y disgwylir i'ch cyfnod o wasanaeth rheithgor barhau fel arfer am hyd at 2 wythnos). Os ydych chi ar Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau, rhaid i chi gael Tystysgrif Colli Enillion wedi'i llofnodi gan y swyddfa budd-daliadau a bydd y llys yn talu'r budd-dal. Os ydych ar Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, rhaid i chi hawlio Cymhorthdal Incwm am eich cyfnod ar wasanaeth rheithgor.

Allaf i hawlio am ofal plant neu am ofalwr?

Llwytho PDF oddi ar y we
Taflen lwfansau

Gallwch hawlio am daliadau ychwanegol y mae'n rhaid i chi eu gwneud i ofalwr neu warchodwr plant o ganlyniad i'ch gwasanaeth rheithgor, ar yr amod nad yw eich hawliad dyddiol am golled ariannol yn uwch na'r uchafswm a bennwyd drwy gyfraith.

Beth gaf i ei hawlio?

Llwytho PDF oddi ar y we
Taflen lwfansau

Cewch hawlio'r canlynol:

  • costau teithio
  • lwfans cynhaliaeth
  • colli enillion/budd-daliadau
  • lwfans am golled ariannol arall.

Beth am hawlio am daliadau eraill?

Llwytho PDF oddi ar y we
Taflen lwfansau

Os bydd rhaid i chi wneud taliadau eraill oherwydd gwasanaeth rheithgor, cewch hawlio'r rhain. Rhaid i chi ddarparu derbynneb i'r llys, neu lythyr wedi'i lofnodi, sy'n nodi'r symiau ac yn egluro am beth y gwnaed y taliadau. Efallai y gofynnir i chi hefyd paham y bu'n rhaid i chi wneud y taliad.

Cewch hawlio mwy nag un math o gostau, ond ni all cyfanswm y gall y llys ei dalu fod un uwch nag uchafswm y lwfans ar gyfer colled ariannol. Bydd y symiau hyn yn newid o dro i dro a rhoddir gwybod i chi beth yw'r cyfraddau cyfredol yn y daflen lwfansau a dderbyniwyd gyda'ch gwŷs rheithgor ac yn ddiweddarach gyda'ch pecyn cadarnhau.

Beth am gostau teithio?

Llwytho PDF oddi ar y we
Taflen lwfansau

Cewch hawlio cost taith ddwyffordd rhwng eich cartref a'r llys.

Beth os ydw i'n teithio gyda bws, trên tanddaearol neu drên?

Llwytho PDF oddi ar y we
Taflen lwfansau

Gallwch hawlio pris tocyn dwyffordd safonol. Rhaid i chi gymryd y llwybr mwyaf uniongyrchol i'r llys.

Beth os bydd yn rhaid i mi ddefnyddio fy nghar?

Llwytho PDF oddi ar y we
Taflen lwfansau

Telir lwfans i chi yn seiliedig ar y nifer o filltiroedd a deithiwyd gennych. Bydd disgwyl i chi ddefnyddio'r llwybr mwyaf uniongyrchol i gyrraedd y llys.

Beth am ffioedd parcio?

Gallai ffioedd parcio gael eu talu mewn rhai llysoedd. Cysylltwch â swyddfa'r llys i gael gwybodaeth am hyn cyn i chi dalu unrhyw ffioedd.

Beth os byddaf yn defnyddio mwy nag un math o gludiant?

Llenwi ffurflen Treuliau.

Gallwch hawlio am unrhyw gyfuniad o ddulliau teithio a restrir, ar yr amod eich bod yn defnyddio'r llwybr mwyaf uniongyrchol i gyrraedd y llys.

A gaf i ddefnyddio tacsi?

Llenwi ffurflen Treuliau.

Mewn argyfwng, neu lle nad oes bws na thrên y gallech eu defnyddio, gallai'r llys dalu cost tacsi, ond holwch y llys yn gyntaf bob amser. Os bydd y llys yn cytuno i dalu'r gost, rhaid i chi gael derbynneb gan y gyrrwr.

Beth os oes gennyf gerdyn teithio?

Llenwi ffurflen Treuliau.

Cysylltwch â'r rheolwr rheithgor yn eich llys lleol i weld a ganiateir i chi gyfrifo faint o'r cerdyn sydd yn cynnwys eich gwasanaeth rheithgor a hawlio'r swm hwnnw.

A oes angen i mi gadw derbynebau?

Llenwi ffurflen Treuliau.

Oes. Rhaid i chi gadw derbynebau am eich teithio er mwyn hawlio'n ôl eich treuliau. Mae'r drefn yn amrywio o lys i lys, a rhoddir gwybod i chi am hyn ar eich diwrnod cyntaf yn y llys.

Beth gaf i ei hawlio o ran cynhaliaeth?

Llwytho PDF oddi ar y we
Taflen lwfansau

Cewch hawlio lwfans tuag at gost bwyd a diod tra yr ydych yn y llys. Y mae'r lwfans a delir yn swm penodol ac yn dibynnu ar ba mor hir y mae'n rhaid i chi fod oddi cartref neu o'ch gwaith am bob diwrnod o'ch gwasanaeth rheithgor. Fe welwch y swm yn y daflen lwfansau.

Pa bryd ddylwn i hawlio treuliau?

Gwaith papur yn cael ei drosglwyddo.

Rhoddir ffurflen hawlio treuliau i chi ar y diwrnod cyntaf. Bydd eich rheolwr rheithgor yn dweud wrthych sut i'w llenwi a pha bryd i'w rhoi i mewn.

Sut bydd y llys yn talu fy nhreuliau i mi?

Rheithiwr yn gwneud ymholiad.

Fel arfer, bydd y llys yn trefnu i'ch treuliau gael eu talu'n uniongyrchol i'ch cyfrif banc. Os bydd hyn yn anodd i chi, mynnwch air â'r rheolwr rheithgor ar eich diwrnod cyntaf.

Pa bryd y telir fy nhreuliau i mi?

Rheithiwr yn gwneud ymholiad.

Byddwch yn cael eich talu cyn pen pum diwrnod gwaith o derfyn eich gwasanaeth rheithgor. Os bydd hyn yn anodd i chi, mynnwch air â'r rheolwr rheithgor ar eich diwrnod cyntaf. Os byddwch yn gwasanaethu ar dreial hir, gwneir trefniadau arbennig.

Am ba hyd y bydd fy ngwasanaeth rheithgor yn para?

Darpar reithiwr yn derbyn cyfarwyddyd.

Fel arfer, bydd gwasanaeth rheithgor yn parhau am 10 diwrnod gwaith. Os bydd treial yn debygol o barhau'n hwy na hynny, bydd y llys yn gofyn a fyddai hynny'n anodd i chi.

Pa bryd bydd y llys yn dechrau a gorffen bob dydd?

Fel arfer, bydd y llys yn eistedd rhwng 10.30am a 4.30pm bob dydd. Fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar y ffordd yr aiff y treial rhagddo. Bob diwrnod, gallai'r barnwr roi cyfarwyddyd i chi eistedd am gyfnod hwy, neu gyfnod byrrach o oriau.

Beth os byddaf yn hwyr?

Ystafell llys.

Os ydych chi'n rhedeg yn hwyr, ffoniwch y rheolwr rheithgor cyn gynted â phosibl. Y mae'n bwysig iawn eich bod yn caniatáu digon o amser ar gyfer eich taith, gan fod llawer o bobl yn gysylltiedig â'r treial, ac mae oedi'n gostus.

Beth fydd yn digwydd pan gyrhaeddaf am y tro cyntaf?

Swyddog gwarchod yn rhoi cyfarwyddiadau.

Pan gyraeddwch, bydd eich bagiau chi, ac eraill sy'n cyrraedd y llys yn cael eu harchwilio gan warcheidwad diogelwch. Yna anfonir chi i fan aros y rheithgor, lle y cymerir eich enw.

Ymhle y bydd fy ngwasanaeth rheithgor yn digwydd?

Dyn yn nesau at y Llys.

Bydd fel arfer yn digwydd yn y Llys y Goron sydd agosaf at eich cartref. Yn achlysurol, bydd angen rheithwyr mewn llysoedd sifil, yr Uchel Lys a'r llys sirol. Arweiniad i Lys y Goron yw hwn - os dewisir chi i wasanaethu mewn llys sirol dywedir wrthych am y gwahaniaethau rhwng llysoedd sifil a Llys y Goron pan fyddwch yn mynychu.

Sut mae cyrraedd yno?

Bydd manylion ynghylch sut i fynd i'r llys, cludiant cyhoeddus a pharcio'n cael eu hanfon atoch cyn eich gwasanaeth.

I ble dylwn i fynd yn y llys?

Ardal aros y Rheithgor

Pan gyraeddwch bob bore, ewch ar unwaith i fan aros y rheithgor, nid i ystafell y llys nac unrhyw ran arall o'r adeilad.

A gaf i fynd allan amser cinio?

Cewch. Fel arfer, bydd modd i chi adael adeilad y llys amser cinio. Fel arfer, ceir nifer o opsiynau ar gyfer cinio, yn dibynnu ar amgylchiadau lleol. Dywedir wrthych ynghylch y rhain yn y daflen wybodaeth leol a anfonir atoch pan gadarnheir eich gwasanaeth rheithgor.

Ar faint o dreialon y byddaf i'n gwasanaethu?

Bydd y rhan fwyaf o achosion yn cymryd dau neu dri diwrnod yr un, felly y mae'n debygol y byddwch yn gwasanaethu ar sawl treial yn ystod eich cyfnod o bythefnos. Nid yw'n arferol, ond efallai na fyddwch yn gwasanaethu ar unrhyw dreial o gwbl.

Allaf i gael gwybod pa dreial y byddaf yn gweithredu arno cyn fy ngwasanaeth rheithgor?

Twrnai.

Na - ni fyddwch yn gwybod hyd nes y byddwch wedi tyngu llw ar reithgor. Byddwch yn gwasanaethu ar dreialon ar gyfer achosion troseddol mwy difrifol megis lladrata, byrgleriaeth a throseddau'n ymwneud a chyffuriau ac, yn llawer llai aml, trais, llofruddiaeth a thwyll.

Beth ddylwn i ei wisgo?

Ardal aros y Rheithgor

Nid oes unrhyw reol gaeth ynglŷn â gwisg, ond dillad anffurfiol trwsiadus yw'r dewis gorau. Byddwch yn eistedd i lawr am gyfnod hir, felly gwisgwch ddillad yr ydych yn teimlo'n gyfforddus ynddynt.

Beth ddylwn i ddod gyda mi ar fy niwrnod cyntaf?

Gwys rheithgor yn cael ei chyflwyno yn y dderbynfa

Cofiwch ddod â'r canlynol:

- tudalennau 1 a 2 eich gwŷs rheithgor

- UN o'r mathau canlynol o adnabyddiaeth:

   - Pasbort yn eich enw llawn cyfredol, NEU
   - Cerdyn Adnabod Cenedlaethol y DU, NEU
   - Dogfennau gan y Swyddfa Gartref yn cadarnhau
      statws mewnfudo i'r DU, NEU
   - Trwydded yrru (fersiwn newydd gyda llun os yn bosibl) NEU

- UNRHYW DDAU o'r canlynol

   -  Tystysgrif Geni (a gyhoeddwyd i fewn 6 wythnos i'ch geni); NEU
   - Cerdyn Credyd gyda thri datganiad a phrawf o lofnod, NEU
   - Llyfr siec a cherdyn banc gyda 3 datganiad a phrawf o lofnod,
     NEU
   - 3 bil gan y prif wasanaethau yn dangos yr enw a'r cyfeiriad cywir.

- Tystysgrif Colli Enillion wedi'i llenwi, ac wedi cael ei llofnodi gan eich
  cyflogwr (os oes angen)

- Tystysgrif Colli Budd-dal wedi'i llenwi, ac wedi'i llofnodi gan eich
  swyddfa budd-daliadau (os oes angen)

- rhywbeth i'w ddarllen neu i'w wneud, gan eich bod yn debygol o
  dreulio llawer o amser yn aros i gael eich galw i wasanaethu
  ar dreial.

A oes angen i mi wybod unrhyw beth am y gyfraith?

Nid oes angen i chi wybod dim am y gyfraith nac am dermau cyfreithiol, gan y bydd unrhyw beth y gallech fod angen ei wybod yn cael ei egluro i chi gan farnwr y treial.

Wrth bwy y gallaf ddweud fy mod yn gwneud gwasanaeth rheithgor?

Gallwch ddweud wrth unrhyw un, ond cofiwch ddweud wrth eich cyflogwr, gwarchodwr plant, ac unrhyw un arall a allai gael ei effeithio gan eich absenoldeb. Tra byddwch yn gwasanaethu, rhaid i chi gofio na chaniateir i chi siarad am fanylion unrhyw achos y gallech fod yn ymwneud ag ef.

A gaf i fynd â rhywun gyda mi?

Argymhellir i chi beidio â gwneud hynny, oni fyddant yno i'ch cynorthwyo - gweler y wybodaeth ar Anghenion Arbennig yn yr adran ar Gyfleusterau yn y Llys. Ni fydd modd i chi fod gyda hwy yn ystod y dydd, ac eithrio efallai amser cinio, ac ni chaniateir i chi siarad gyda hwy o gwbl ynghylch y treial yr ydych yn gwasanaethu arno.

A fydd cyfleusterau arlwyo ar gael?

Bydd llysoedd fel arfer yn darparu lluniaeth ar gyfer rheithwyr. Mae'r rhain ar gael o fan arlwyo'r llys a gall rheithwyr ddewis beth y maent ei eisiau, hyd at werth y lwfans dyddiol a bennwyd. Mewn nifer fechan o lysoedd, ni cheir unrhyw drefniadau arlwyo yn yr adeilad. Yn y lleoliadau hyn - ac ar gyfer rheithwyr nad oes modd iddynt ddefnyddio'r cyfleusterau arlwyo am resymau crefyddol, deiet a rhesymau eraill - telir lwfans yn adolygol gyda threuliau eraill. Gall rheithwyr ddewis dod â'u pecyn cinio eu hunain gyda hwy.

A oes yna le diogel lle y gallaf gadw fy eiddo personol?

Mae darpariaeth loceri'n amrywio o lys i lys. Cysylltwch â'ch llys lleol i gael mwy o wybodaeth.

A gaf i ddefnyddio fy ffôn symudol a'm cyfrifiadur?

Gwraig yn gwrando ar gyfarpar cerddoriaeth personol.

Cewch, fe gewch chi ddefnyddio'ch ffôn symudol a'ch cyfrifiadur yn y man aros, ond bydd yn rhaid i chi holi eich llys lleol a oes loceri ar gael i'w cadw'n ddiogel. Am resymau diogelwch, ni chaniateir stereos personol, ffonau symudol, recordydd tâp nac unrhyw offer electronig arall yn ystafell y llys. Oni ddarperir loceri, bydd yn rhaid i reithwyr gadw eitemau o'r fath gyda hwy a sicrhau eu bod wedi eu troi i ffwrdd tra yn ystafell y llys. Os oes unrhyw amheuaeth gennych, holwch ymlaen llaw, gan na all y llys fod yn gyfrifol am eu cadw'n ddiogel.

A gaf i ysmygu?

Fel yn unrhyw adeilad cyhoeddus, gwaherddir ysmygu yn llwyr.

A oes yna rywle i mi adael fy mhlant tra byddaf yn y llys?

Llwytho PDF oddi ar y we
Taflen lwfansau

Nid oes unrhyw gyfleusterau gwarchod plant mewn llysoedd. Cewch hawlio unrhyw daliadau ychwanegol y bydd yn rhaid i chi eu gwneud i ofalwr neu warchodwr plant o ganlyniad i'ch gwasanaeth rheithgor, ar yr amod nad yw eich hawliad dyddiol yn mynd y tu hwnt i'r uchafswm a bennwyd gan y gyfraith.

Beth os oes gennyf anghenion arbennig?

Mae gan y rhan fwyaf o lysoedd gyfleusterau ar gyfer pobl ag anableddau. Fodd bynnag, cysylltwch â'r rheolwr rheithgor yn eich llys i'w hysbysu ymlaen llaw os oes gennych unrhyw anghenion arbennig. Gallwch drefnu i gael ymweld â'r llys cyn i chi orfod bod yn bresennol, er mwyn gweld a yw'r cyfleusterau'n ddigonol.

A gaf i weld y llys cyn dechrau gwasanaeth rheithgor?

Ystafell llys wâg.

Cysylltwch â'ch llys i weld a allant drefnu ymweliad. Mae rhai pobl yn ei chael yn ddefnyddiol i weld awyrgylch y llys a'r cyfleusterau yno cyn dechrau ar wasanaeth rheithgor.

A oes gan y llys gyfleusterau ar gyfer gweddïo?

Mae rhai llysoedd yn darparu mannau ar wahân ar gyfer gweddïo a myfyrdod tawel. Nid oes unrhyw bolisi penodol ar atal treialon er mwyn caniatáu ar gyfer arferion crefyddol, ond os codir y mater gydag aelod o staff y llys, byddant yn gwneud eu gorau i ddarparu ar gyfer anghenion pob rheithiwr.

Cysylltwch â'r rheolwr rheithgor yn eich llys lleol i gael mwy o wybodaeth.

Beth os hoffwn gael rhywle i feddwl ar ben fy hun?

Bydd rhai llysoedd yn darparu mannau ar wahân ar gyfer myfyrdod tawel. Cysylltwch â'r rheolwr rheithgor yn eich llys lleol am fwy o wybodaeth.

Beth os byddaf angen siarad ag aelod o staff y llys yn breifat?

Does dim ond angen i chi ofyn, a lle bynnag y bo'n bosibl, trefnir hynny.

 phwy ddylwn i gysylltu os oes gennyf unrhyw gwestiynau?

Rheithiwr posibl yn ffonio ynglyn â chwestiwn sydd ganddo.

Hyd at wythnos cyn eich gwasanaeth rheithgor, cysylltwch â'r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor.

Un wythnos neu lai cyn y bydd eich gwasanaeth rheithgor i fod i ddechrau, cysylltwch â'r rheolwr rheithgor yn y Llys y Goron y gofynnwyd i chi ei fynychu. Fe welwch y rhif ar y daflen wybodaeth leol a anfonwyd atoch gyda'r llythyr yn cadarnhau eich gwasanaeth (neu ewch i 'Manylion Llys Lleol).

Gellir cael mwy o wybodaeth am Wasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi'n gyffredinol ar: www.hmcourts-service.gov.uk.

Sut mae modd i mi gysylltu â'r Rheolwr Rheithgor?

Anfonir manylion ynghylch pwy i gysylltu â hwy atoch cyn eich gwasanaeth neu gallwch alw yn y llys a gofyn am y Rheolwr Rheithgor.

Beth os byddaf eisiau cwyno am y ffordd y cefais fy nhrin pan oeddwn ar wasanaeth rheithgor?

Dywedwch wrth aelod o staff y llys os byddwch eisiau cwyno am y gwasanaeth a ddarparwyd gan y llys. Bydd aelod o staff yn ceisio datrys eich problem yn y fan a'r lle. os ydych chi'n parhau'n anhapus, gallwch siarad â swyddog gwasanaeth cwsmeriaid eich llys neu reolwr y llys, neu anfon llythyr ato/ati.

Tra byddaf yn aros, a fyddaf yn cymysgu â phobl o rannau eraill o'r llys?

Dau reithiwr yn cael sgwrs ym man aros y rheithgor.

Bob amser, ar wahân i'r adeg y byddwch yn ystafell y llys, byddwch chi a gweddill y rheithgor yn cael eich cadw ar wahân i bobl eraill yn y llys, ac eithrio'r tywyswyr. Byddwch yn cymysgu â rheithwyr o dreialon eraill yn y man aros ond rhaid i chi gofio peidio â thrafod manylion eich treial chi gydag unrhyw reithwyr nad ydynt ar y treial hwnnw, na phan fyddwch mewn man cyhoeddus.

Ar ba dreial y byddaf fi'n gwasanaethu?

Rheithiwr yn codi ei law i ofyn cwestiwn.

Ni fyddwch yn gwybod ar ba dreial y byddwch yn gwasanaethu hyd nes y byddwch wedi tyngu llw. Hyd yn oed pan eir â chi i fyny i ystafell llys, efallai na chewch eich dewis ar gyfer yr achos hwnnw.

Ar faint o dreialon fyddaf fi'n gweithredu?

Mae'r rhan fwyaf o achosion yn cymryd dau neu dri diwrnod, felly y mae'n debygol y byddwch yn eistedd ar sawl treial dros eich cyfnod o 10 diwrnod. Y mae'n anarferol, ond efallai na fyddwch yn gwasanaethu ar dreial o gwbl.

Pa bryd fyddaf fi'n cael fy ngalw i wasanaethu ar reithgor?

Rheithgor yn derbyn cyfarwyddiad.

Mae'n amhosibl dweud. Bydd yn dibynnu ar ddigwyddiadau'r dydd os cewch eich galw i wasnaethu ar reithgor yn sydyn, neu o gwbl. Gall treialon gymryd mwy o amser na'r disgwyl ac weithiau efallai na fydd achos yn barod i fynd i'r llys. Os bydd diffynnydd yn pledio'n euog ar y funud olaf, nid oes angen i'r treial gael ei gynnal.

Pam yr eir â mwy o bobl i'r llys nag sy'n gwasanaethu ar reithgor?

Ystafell llys.

Eir â 15 o bobl i fyny i'r llys i ddangos i'r llys bod 12 o bobl yn cael eu dewis ar hap o blith y grŵp hwn. Pan ddisgwylir i achos barhau am fwy na phythefnos, eir â grŵp mwy o bobl i fyny i'r llys, gan y bydd rhai pobl yn methu â gwasanaethu ar reithgor am gyfnod mor hir â hynny.

Beth os gofynnir i mi wasanaethu a gyfnod hwy na phythefnos?

Ceir rhesymau pam na all rhai pobl eistedd ar dreialon hir. Gall hyn gynnwys bod yr unig ofalwr dros blentyn neu berthynas oedrannus, bod yn hunan-gyflogedig, neu os ydych wedi trefnu a thalu am wyliau.

Beth os byddaf yn adnabod rhywun sy'n gysylltiedig â'r achos?

Y diffynnydd yn y doc.

Os byddwch, ar unrhyw adeg, yn adnabod y diffynnydd neu unrhyw un arall sy'n gysylltiedig â'r treial, dywedwch wrth dywysydd ar unwaith drwy basio nodyn iddynt. Dylech ddweud wrthynt, hyd yn oed os ydych o'r farn na fydd yn effeithio ar eich dyfarniad - os cewch chi eich adnabod gan unrhyw un yn ystafell y llys fe allent hawlio bod yr achos yn un annheg a gofyn i chi gael eich anfon ymaith.

Mewn rhai achosion, megis twyll, bydd cwmnïau penodol megis banciau, cymdeithasau adeiladu neu gwmnïau yswiriant yn cael eu rhestru yn yr achos. Gofynnir i chi ddweud wrth y barnwr os oes gennych chi, aelod o'ch teulu neu ffrind agos gysylltiad â'r cwmni. Os oes gennych, efallai y gofynnir i chi dynnu'n ôl o wasanaeth rheithgor ar yr achos hwn.

Beth yw her?

Adfocad yr amddiffyniad yn siarad â'r llys.

Fe allech chi neu aelod arall o'ch rheithgor gael eich herio gan yr erlyniad neu'r amddiffyniad. Mae hyn fel arfer os bydd rhywun yn ystafell y llys yn adnabod rheithiwr. Os bydd y barnwr yn caniatau'r her, bydd yn rhaid i chi adael bocs y rheithgor a bydd clerc y llys yn galw rhywun arall i gymryd eich lle. Bydd un o swyddogion y llys yn mynd â chi yn ôl i'r man aros ac efallai y cewch eich rhyddhau ar gyfer treial mewn llys arall. Peidiwch â phryderu os digwydd hyn; y mae'n hynod bwysig sicrhau treial teg i'r diffynnydd.

Paham fod angen i mi dyngu llw?

Llwytho PDF oddi ar y we
Llwon a chadarnhadau

Drwy dyngu llw yr ydych yn gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wneud eich gorau i gyflawni swyddogaeth rheithiwr a chymryd rhan weithredol yn y gwaith o ddarparu dedfryd deg i'r diffynnydd.

Sut ydw i'n tyngu llw neu'n cadarnhau?

Llwytho PDF oddi ar y we
Llwon a chadarnhadau

Byddwch yn gwneud hyn drwy ddal Llyfr sanctaidd yn eich llaw tra byddwch yn adrodd geiriau'r llw, mae cardiau llwon a llyfrau sanctaidd ar gael ar gyfer sawl crefydd. Os ydych chi eisiau tyngu llw ar lyfr ar wahân i Destament Newydd y Beibl, dywedwch wrth swyddog y llys (y tywysydd fel arfer) cyn gynted ag y gallwch. Bydd y cerdyn llw neu'r llyfr sanctaidd wedyn yn cael ei ddarparu ar eich cyfer.

Cewch ofyn am gadarnhau os nad ydych eisiau tyngu llw ar lyfr sanctaidd. Mae geiriau'r cadarnhad yn debyg iawn i lw a'r un ystyr sydd iddynt, ond ni ofynnir i chi ddal llyfr sanctaidd yn eich llaw wrth siarad.

Ble byddaf i'n eistedd yn y llys?

Deuddeg aelod o reithgor.

Byddwch yn eistedd ym mocs y rheithgor (fe'i gelwir weithiau'n fainc y rheithgor). Unwaith y byddwch wedi tyngu llw, byddwch bob amser yn eistedd yn yr un lle yn y bocs rheithgor.

A oes hawl gennyf i wneud nodiadau?

Oes. Darperir papur a phinnau ysgrifennu ar eich cyfer. Dim ond yn ystafell y llys y ceir defnyddio'r rhain, ac ni chewch fynd â hwy gartref gyda chi. Cewch fynd â hwy i ystafell y rheithgor pan fyddwch yn trafod. Ar derfyn y treial bydd eich nodiadau'n cael eu dinistrio.

Beth os na fyddaf yn deall yr hyn sy'n cael ei ddweud?

Rheithiwr yn tyngu llw.

Mae'r proffesiwn cyfreithiol yn gwybod nad yw aelodau rheithgor yn gyfarwydd â'r hyn sy'n mynd ymlaen mewn llys. Byddant yn sicrhau eu bod yn mynegi popeth mewn modd y gallwch chi ei ddeall gan mai chi a'ch cyd-reithwyr fydd yn penderfynu ar ddyfarniad yr achos. Os bydd gennych unrhyw broblem, gallwch ofyn am eglurhad drwy basio nodyn i'r barnwr drwy glerc y llys neu'r tywysydd.

Paham fod bargyfreithwyr a swyddogion y llys yn moesymgrymu i'r barnwr pan ddeuant i mewn i'r ystafell?

Arfbais y Frenhines.

Nid ydynt yn moesymgrymu i'r barnwr. Maent yn moesymgrymu i arfbais y Frenhines sydd uwchben y barnwr er mwyn dangos parch i gyfiawnder y Frenhines.

Sut y byddaf i'n gwybod pryd i fod yn bresennol?

Bydd y barnwr yn dweud wrthych ar ddiwedd pob diwrnod pa bryd y dylech gyrraedd ar gyfer y diwrnod canlynol. Weithiau, gall y barnwr ofyn am doriad yn yr achos i ganiatau i'r amddiffyniad neu'r erlyniad barhau i baratoi, felly efallai y gofynnir i chi ddod yn ôl ymhen diwrnod neu ddau. Dylech gofio ar gyfer pa amser y gofynnwyd i chi ddod, a sicrhewch fod gan y rheolwr rheithgor rif cysylltu ar eich cyfer, rhag ofn y bydd newid yn yr amser.

Os byddaf yn cael diwrnod i ffwrdd, a gaf i fynd yn ôl i'r gwaith?

Rheithwyr yn darllen papurau a roddwyd iddynt yn yr ardal aros.

Cewch. Os nad oes eich angen ar gyfer treial ar ddiwrnod penodol a bod modd i chi ddychwelyd i'r gwaith, rhaid i chi wneud hynny. Os nad oes modd i chi ddychwelyd i'r gwaith rhaid i chi hysbysu'r llys ar eich diwrnod cyntaf o wasanaeth a dylai eich cyflogwr lenwi'r ffurflen colli enillion. Os methwch â gwneud hyn, gallai effeithio ar y golled enillion y gall y llys ei thalu.

Os na fydd eich angen ar unrhyw adeg yn ystod eich gwasanaeth rheithgor, dywedir wrthych pryd nesaf y dylech fod yn bresennol yn y llys. Nid y diwrnod canlynol fydd hynny o reidrwydd, felly sicrhewch eich bod yn gwrando'n ofalus ar unrhyw gyfarwyddiadau.

Os caniateir i chi ddychwelyd i'r gwaith peidiwch â thrafod manylion unrhyw dreial gydag unrhyw un - cofiwch y byddwch dan lw o hyd, hyd yn oed pan fyddwch y tu allan i ystafell y llys.

Beth sy'n digwydd os wyf yn bryderus ynghylch ymddygiad rheithiwr arall?

Os byddwch yn teimlo'n gryf bod cyd-aelod o reithgor yn ymddwyn yn amhriodol dylech hysbysu'r barnwr yn ysgrifenedig drwy glerc y llys neu'r tywysydd.

Beth os na fyddaf yn teimlo'n dda yn ystod fy amser ar y rheithgor?

Os byddwch ar unrhyw adeg yn teimlo'n wael, angen defnyddio'r toiled neu os yw'r dystiolaeth yn peri loes i chi, tynnwch sylw un o swyddogion y llys a fydd bob amser yn gwneud eu gorau i'ch helpu.

Beth os na fyddaf yn teimlo'n dda cyn i mi gyrraedd y llys?

Ffoniwch eich rheolwr rheithgor cyn gynted â phosibl. Mewn rhai achosion efallai y bydd yn rhaid gohirio'r treial am ddiwrnod. Gan fod gohirio achos yn hynod gostus, dylid osgoi hyn os yn bosibl.

Sut ydym ni'n penderfynu ar ddedfryd?

Rheithwyr yn ystafell y rheithgor yn trafod y dystiolaeth.

Eir â chi i ystafell y rheithgor lle y byddwch yn trafod y dystiolaeth a gyflwynwyd i chi yn ystod y treial. Rhaid i'r rheithgor ddewis llefarydd a fydd yn cyflwyno'r ddedfryd i'r llys. Gelwir yr unigolyn yn benrheithiwr.

Beth sy'n digwydd os na fyddwn wedi gwneud penderfyniad erbyn diwedd y dydd?

Deuir â'r rheithgor yn ôl i ystafell y llys a bydd y barnwr yn eich atgoffa na ddylech siarad ag unrhyw un ynghylch yr achos. Yna byddwch yn cael eich rhyddhau'n ffurfiol tan y bore canlynol.

Fel arfer byddwch yn mynd adref dros nos, ond mewn rhai amgylchiadau arbennig byddwch yn aros mewn gwesty. Bydd hyn fel arfer os oes gan y treial broffil uchel yn y cyfryngau, ac y gallech weld adroddiadau a allai gael dylanwad arnoch. Rhoddir digon o rybudd ymlaen law i chi os yw hyn yn debygol o ddigwydd. Y mae'n beth prin iawn.

Y bore canlynol, fe'ch gelwir i ystafell y llys a gofynnir i chi fynd i ystafell y rheithgor.

Pa mor ddiogel yw ystafell y rheithgor?

Ni chaniateir i unrhyw un, ar wahân i'r tywysydd, gysylltu â'r rheithgor tra byddwch yn trafod. Dangosir i chi sut i gysylltu â'r tywysydd os byddwch angen.

Beth gaf i fynd gyda mi i ystafell y rheithgor?

Rheithwyr yn ystafell y rheithgor.

Dim ond y canlynol:

  • unrhyw nodiadau a wnaed gennych yn ystod y treial
  • copi o'r ditiad, sef rhestr o droseddau y cyhuddwyd y diffynnydd ohonynt
  • unrhyw arddangosion a gyflwynwyd yn ystod y treial, y caniatawyd i chi fynd â hwy.

A gaf i fynd â fy ffôn symudol i ystafell y rheithgor?

Na chewch. Gall unrhyw reithiwr y canfyddir fod ganddo ffôn symudol yn ystafell y rheithgor gael ei ganfod yn euog o ddirmyg llys a gellir ei ddirwyo neu ei anfon i garchar. Fel arfer bydd y tywysydd yn cadw eich ffôn mewn man diogel hyd nes y byddwch yn gadael ystafell y rheithgor.

Pa gyfleusterau sydd yna yn ystafell y rheithgor?

Bydd diodydd ar gael, ac os byddwch yn trafod yn ystod yr awr ginio, bydd y rhan fwyaf o lysoedd yn trefnu i archebu lluniaeth drwy'r tywysydd. Rhoddir mwy o wybodaeth i chi yr adeg hynny. Hefyd, fel fydd toiledau mewn ystafell gyfagos, i'ch defnydd chi yn unig.

A gaf i ysmygu yn ystafell y rheithgor?

Fel gyda pobl adeilad cyhoeddus, gwaherddir ysmygu.

A gaf i siarad am y treial?

Na chewch. Ni ddylech siarad â neb ynghylch yr hyn sy'n digwydd yn ystafell y rheithgor a dylech ddweud wrth swyddog o'r llys os daw unrhyw un atoch i ymholi. Ni ddylech dan unrhyw amgylchiadau siarad â'r wasg yn ystod nac ar ôl treial.

Sut allaf i gael gwybod pa ddedfryd a roddwyd?

Y Clerc yn annerch y llys.

Efallai y bydd y barnwr yn dedfrydu ar unwaith, ond weithiau bydd yn gofyn i'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol ddarparu adroddiadau cyn dedfrydu. Yn yr achos hwnnw, gallai sawl wythnos fynd heibio cyn y gall barnwr benderfynu pa ddedfryd i'w rhoddi. Os ydych eisiau gwybod canlyniad achos, gallwch gysylltu â'r llys y diwrnod ar ôl y dyddiad a bennwyd ar gyfer dedfrydu yn yr achos.

Beth os byddaf yn teimlo'n ofidus ar ôl y treial?

Llwytho PDF oddi ar y we
Download guidance for distressed jurors

Ar rai achlysuron, gallai manylion achosi trallod. Os byddwch chi'n teimlo'n ofidus yn ystod neu ar ôl treial, gofynnwch am gael gair yn gyfrinachol gyda'r rheolwr rheithgor. Byddant yn falch o roi gymaint o gymorth ag a allant a dylent allu darparu copi o'r daflen Byw gyda'r Dystiolaeth. Cofiwch na fydd modd iddynt drafod yr achos gyda chi.

© Hawlfraint|Polisi preifatrwydd|Lansio'r canllaw rhyngweithiol

Criminal Justice System