Cael help gyda'r ffurflenni
A chithau nawr wedi cael eich gwysio, beth ddylech chi ei wneud nesaf? Mae'n bwysig eich bod yn ateb eich gwŷs cyn pen 7 niwrnod o'i dderbyn. Treuliwch amser yn darllen y dogfennau a anfonwyd atoch a gwnewch nodyn o unrhyw gwestiynau - dylai'r atebion fod ar gael yma.
Byddwch yn gweld bod pedair tudalen i'r wŷs. Cadwch dudalennau 1 a 2 a dod â nhw gyda chi pan fyddwch yn dechrau eich gwasanaeth rheithgor. Mae'r rhain yn cynnwys manylion lle dylech fynd a phryd.
Dychwelwch dudalennau 3 a 4 i'r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor. Dyma eich ateb i'r wŷs rheithgor, sy'n rhoi gwybodaeth ychwanegol amdanoch chi ac sy'n rhoi cyfle i chi wneud cais i ohirio eich gwasanaeth rheithgor neu wneud cais i gael eich esgusodi rhag gwasanaethu. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn yr adran 'Alla' i ddewis peidio â gwasanaethu'.
Ar ôl i'ch ateb gael ei dderbyn, anfonir rhagor o fanylion atoch chi, gan gynnwys sut mae cyrraedd y llys. Dylech roi gwybod mewn da bryd i gyflogwyr ac unrhyw un arall y gallai eich absenoldeb effeithio arnynt.