Bod yn reithiwr

Skip to search
Skip to Navigation
Accessibility Statement

Ymateb i'r wŷs

Printio'r cwestiwn

Beth sy'n digwydd wedi i mi ddychwelyd fy ngwŷs?

Os ydych chi wedi cadarnhau bod modd i chi wasanaethu ar yr amser y gwysiwyd chi, bydd y Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor yn anfon atoch fanylion sut i ddod i'r llys a beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi cyrraedd. Os ydych chi wedi gofyn i'ch gwasanaeth gael ei ohirio, neu os ydych wedi gofyn am gael eich esgusodi byddwch yn cael cadarnhad a yw'ch rhesymau wedi cael eu derbyn ai peidio. Mae'r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor yn ceisio ateb mor brydlon â phosibl, ond caniatewch hyd at 10 diwrnod o amser wedi anfon eich llythyr.

Beth sy'n digwydd os na fyddaf yn ateb y wŷs?

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu dirwy a bennir gan farnwr:

  1. os na fyddwch yn ymateb i'r wŷs
  2. os na fyddwch yn bresennol ar gyfer gwasanaeth rheithgor heb reswm da
  3. os nad ydych ar gael i fod yn reithiwr pan elwir eich enw
  4. os nad ydych yn addas i fod yn rheithiwr oherwydd eich defnydd o alcohol neu gyffuriau.

Beth sy'n digwydd os aeth fy ngwŷs i gyfeiriad gwahanol?

Os ydych chi wedi symud tŷ ac y bu oedi cyn derbyn eich gwŷs, peidiwch â phoeni; y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw ateb cyn pen saith diwrnod o'i dderbyn yn eich cyfeiriad newydd. Disgwylir i chi wasanaethu ar reithgor o hyd, ond efallai y symudir eich gwasanaeth i Lys y Goron yn nes at eich cyfeiriad newydd. Sicrhewch, os gwelwch yn dda, eich bod wedi rhoi eich cyfeiriad newydd ar y ffurflen Ymateb i'r Wŷs Rheithgor.

© Hawlfraint|Polisi preifatrwydd|Lansio'r canllaw rhyngweithiol

Criminal Justice System