Paratoi ar gyfer y llys
Mae'r adran hon yn edrych ar y cwestiynau mwyaf cyffredin sy'n ymwneud ag elfennau ymarferol bod yn rheithiwr, er mwyn i chi deimlo'n barod pan fydd eich gwasanaeth rheithgor yn dechrau - er enghraifft, pa mor hir y bydd yn rhaid i chi wasanaethu; ble mae angen i chi fynd; amseroedd arferol y llys a beth ddylech ei wisgo. Cofiwch fod rheolwr y rheithgor a swyddogion y llys yn gwybod y gall gwasanaeth rheithgor godi ofn ar bobl, a byddant yn siŵr o ofalu amdanoch pan gyrhaeddwch y llys.
Wrth i chi gynllunio beth rydych am fynd gyda chi, cofiwch ei bod yn debygol y byddwch yn treulio cyfnodau yn aros yn ystod eich gwasanaeth rheithgor. Gall hyd achosion llys amrywio'n arw ac mae nifer o ffactorau sy'n gallu golygu y cânt eu hoedi. Efallai y bydd dadleuon cyfreithiol y mae'n rhaid eu gwrando heb i'r rheithgor fod yn y llys, neu efallai y bydd y diffynnydd yn newid ei ble neu ei phle i euog - mae hynny'n golygu na fydd yr achos yn mynd ymlaen o gwbl.
Bydd staff y llys yn gwneud eu gorau glas i wneud yn siŵr na fydd yn rhaid i chi aros pan nad oes angen a chewch eich rhyddhau cyn gynted ag sy'n bosibl os na fydd eich angen ar ddiwrnod penodol.